• News feed
  • Wales
  • Under 21
  • Under 19
  • Under 18
  • Under 17
  • Schoolboy

  • Players
  • Fixtures
  • Articles
  • Young Guns
  • Women
  • Search
  • Contact us

  •     Casino Calculator
        Best Betting Sites in Ireland
        Hityah.com
        UK Casinos not on GamStop
        Online Casinolar
        casino non aams
        casino with no sister site
        uk casino no sister sites
        new casinos not on gamstop
        betting sites
        Overlyzer sports betting tips
        www.newonline-casinos.co.uk
        bookiesbonuses.com
        craps strategy
        online bingo
        Welsh Football Scores
        
        
        
        
        
        
        


    ERTHYGL - PEL DROED CYMRU

    Y fi a Phêl-droed Cymru
     

     
    Ymysg rhei o’r cofiadau cyntaf pan yn blentyn bach yw cicio y bel, efallai dim llawer ar ol dysgu i gerdded mwya tebyg. Wrth fy modd gwneud, ac yn y blynyddoed i ddilyn, y gol oedd giat y ffarm ac yr oedd yn swnllyd yn y cowt fel yr oedd yn cael ei tharo yn gyson. Yn yr amser yna fe oedd fy Mam a Mam John Pierce Jones (Mr Picton) yn ffrindiau mawr, ac y bydda fo ac ei Fam yn dod i ymweld a ni o amser i amser. John wrth ei fodd pan yr oedd yn digwydd, dim gymaint i chwarae gyda mi, ond i reidio y “tricycle” oedd gennyf. Efallai ei fod wedi fy ngwylio gyda y bel ac dyna sut mae Mr P. mor wybodus am beldroed.

        
    Mae yn rhaid cyfadda, wedi gwirioni efo peldroed eirioed, “obsessed” yw y gair yn saesneg, ac efallai nad yw hyna yn hollol ddigon i ddisgrifio fy nheimlad. Dim peldroed yn yr ysgol gynradd ac fellu chwarae ar ben fy hyn yn yr amser yna. Drwy y blynyddoedd, hoffi chwarae mewn gemau pob siawns ag oedd yn bosib ac hefyd diddordeb mawr i ddarllen popeth ynglyn a peldroed. Un o’r pethau mwyaf yr oeddwn yn hoffi gael yn anrheg Nadolig fel hogyn bach oedd llyfrau peldroed. Darllen y papur a dysgu ar gof am y chwareuwyr, ei timau ac ei safle ar y cae. Symyd i’r ysgol gyfun a dechrau cyfeillgarwch fendigedig gyda Michael Williams. Fo hefyd wrth ei fodd casglu gwybodaeth peldroed ac fellu cystadlaethu oeddem, pwy oedd gyda y wybodaeth orau. Fy Nhad yn dweud ar un adeg, os buaswn yn rhoi cymaint o sylw yn yr ysgol ac oeddwn am beldroed, fe fuaswn yn gwneud yn llawer gwell nad oeddwn. Geriau gwir, ond dyna fo, dyna beth oedd yn bleserus i mi. Dal i fod, dim wedi colli yr awydd dros amser maith erbyn hyn. Llawer o hwyl a hanesion drwy y blynyddoedd a phethau pleserus yn aros yn y cof, er nad yw o cyn gysted ac ar un amser.

    Deg oed oeddwn i yn 1958, ac yn dilyn newyddion am Gymru yn chwarae yn Gwpan Y Byd. Y teledu yn newydd yn y ty ac ychydig iawn o ddangos peldroed yr adeg hynny. Fe welais rhyw fymryn a darllen llawer, ac yn falch fod y barnwyr yn dweud ei bod wedi gwneud yn dda. Cyfarfod Michael rhyw ychydig o wythnosau yn ddiweddarach, a’r gystadlaeath am pwy oedd yn gwybod fwya am chwaraewyr Cymru yn dechrau. Dros y blynyddoedd nesaf, peldroed yn dal i fod yn bwysig iawn ond yr un fath a ffawb yn ei arddegau, pethau eraill yn cynyddu mewn pwysicrwydd hefyd. Ymhen hir a hwyr, myned i’r coleg ac yno dod yn ffrindiau mawr gyda Mike Hailwood. Un arall wedi gwirioni am chwarae peldroed ac hefyd am wybodaeth fel fi a Michael. Sais yw o, ond cystadlu yn weddol gryf ac hefyd rhannu ein wydodaeth gyda ein gilydd.

    Ar ol Cwpan Y Byd yn 1958, y nesaf oedd yn 1962, a tim Cymru yn teithio yn yr adeg yna. Yn Brazil yr oedd yn cael ei dal, ac yno yr oeddant yn mynd. Yn anffodus dim i gymryd rhan yn y gystadlaeath, wedi cael gwahoddiad gan y wlad i chwarae dwy gem gyfeillgar cyn iddi hi ddechrau, ar ol argraffiad da yn ei erbyn pedair blynedd yn gynt. Ar ol hynny oedd 1966 wrth gwrs ac yr yda ni i gyd yn gwybod beth ddigwyddodd yr adeg hynny. Mae hi yn dal i geisio cael hyd i y ffordd adref ers, dim llawer mwy o amser na fydd hynny yn 64 o flynyddoedd o ddisgwyl. Yr oeddwn yn dal i fod yn cadw rhywfaint o sylw ar pwy o’r hogiau ifanc efallai fuasa yn werthfawr i dim Cymru ond fe newidiodd yn 1975 pan oeddwn yn teithio i lanau newydd i weithio. Mynd a radio i gael clywed y BBC World Service, a cadw i fynny efo newyddion peldroed felly. Colli y newyddion a oeddwn yn taro arnynt yn leol, ac felly gofyn i Mam bostio cylchgrawn peldroed a darnau o’r papur i mi. Erbyn hyn, mae y we ar gael, a pethau yn llawer mwy hawdd i gadw i fynny gyda y newyddion. Diolch am dano, sbario i mi wneud llawer o ymdrechau gwahanol i geisio casglu y wybodaeth. Dyma ni yn y blynyddoed diweddara yma ac rwyf yn cyfrannu fy ymgais pob wythnos, a Neil yn garedig i adael i mi ei ddangos ar ei safle.

    Ar ol y blynyddoedd o obeithio, wedi cael y pleser o wylio Cymru yn cymryd rhan yn gystadlaeath terfynnol Cwpan Y Byd, ac er bod siom sut oedd pethau yn datbygu, mae y cymryd rhan yn llawer iawn o bleser i mi. Diolch o gael cadw fy iechyd ddigon da dros y blynyddoed. Yn awr yr wyf yn farus, ac eisio cadw yr iach tan y tro nesaf. 2026 yw yr argraffiad nesaf wrth gwrs a buaswn wrth fy modd i Gymru gymryd rhan. Mae yn rhaid i mi gyfadda, yn 1993 yr oeddwn yn hyderus fod y disgwyl am 36 o flynyddoedd, fel yr oedd hi yr adeg yna, yn dod i ben. Yr oeddwn wedi penderfynu fod rhaid i mi fynd i weld y gemau yn fyw, tan ddigwyddodd y noson siomedig yn Gaerdydd. Dyna fo, mae na reswm am bob dim medda nhw, ac yr unig beth a allwn ddweud oedd bod fi wedi gwylio gem Cwpan Y Byd yn fyw wrth fod yn un o’r gemau gyn derfynnol yn 1994. Efallai na disgwyl hyd at 2026 oedd wedi ei benderfynu oedd yn fy ddyfodol.

    Paham mae o yn trafod am 2026 yw y syniad sydd genych mae yn debyg? Fel mae pethau yn edrych yr amser yma, yr wyf yn ffyddiog fod yna siawns weddol dda, y bydd Cymru yn cymyd rhan y tro yna. Mae yn debyg y bydd hi yn waith anodd ac felly bydd rhaid i y chwareuwyr fod yn ddigon da i ddod dros y rhwystr a fydd ar ei ffordd. Wrth gwrs fe fydd na newydion yn y tim, ac y garfan, ond yn fy meddwl i mae yna lawer mawr o hogiau ifanc sydd yn dangos efallai ei byddant ddigon da i wneud y tim yn gryfach nac yw o yn bresennol. Does neb yn gwybod beth sydd yn digwydd yn y dyfodol wrth gwrs, a bydd rhaid i yr hogiau weithio yn galed a bod yn ymroddedig i ddatblygu fel yr wyf yn meddwl y mae y gallu gennyf nhw, i fod yn llwyddianus. Nid does yna ddim amheuaeth na fod fi eisio i Gymru gael llwyddiant cyn gymaint ac wyf fi yn hoffi peldroed yn gyffredinol, ac yr ydach yn gwybod faint yw hynny. Efallai y bod fi yn gobeithio gormod. Mae yn rhaid cyfadda nad wyf fi yn fedrus am wybodaeth o y chwareuwyr, yn bell o hynny. Rhannu fy meddylion gyda chi ydwyf, a gobeithio llawer, fod beth wyf efallai wedi ddysgu dros y blynyddoedd yn gywir.

    Wel, dyna fo, maddeuwch i mi nad y gallu i ysgrifennu Cymraeg yn dda sydd yn rhywbeth yr wyf yn medru. Fe orffenaf gan ddymuno y gorau i chi i gyd.

    Hwyl fawr, John.

    [ Main photo embedded from FAW Cymru ]
    Posted: Saturday 31st December 2022
    Powered by CuteNews



     



       

    OTHER LINKS
    Wales kit news
    Euro 2024
    World Cup Group B
    World Cup 2022
    World Cup 2022 stats
    Wales Ticket news
    Nations League 2022-2023
    Youth news 2023
    Young Guns index

    2023
    Wales v Croatia
    Latvia v Wales
    Turkey v Wales
    Wales v Armenia
    Wales v Latvia
    Croatia v Wales

    UNDER 21
    2023-25 GROUP I

    On this day
    Old web site link
    Join the mailing list
    Welsh Football Scores

    T-shirt SHOP

     

     



    <